Mehefin 2017

Newyddion y Cyngor

Cerddoriaeth yn y Parc 2017

English

Bydd safle seindorf Bellevue unwaith eto’n llawn bwrlwm yr haf hwn, wrth i Gerddoriaeth yn y Parc ddychwelyd!

Eleni, dechreuodd y cyfan 23 Mehefin gyda Luke Gallagher, bydd y cyngherddau cerddoriaeth fyw hyn yn rhedeg am bedair wythnos arall, maent am ddim ac yn cynnig ffordd hyfryd o fwynhau nosweithiau'r haf. 

Dyma weddill y perfformwyr eleni:

Dydd Gwener 7 Gorffennaf 7pm-9pm - Thunderbugs    

Dydd Gwener 14 Gorffennaf 7pm-9pm - Dinosaur

Dydd Gwener 21 Gorffennaf 7pm-9pm - Billy Thompson Gypsy Style

Dydd Gwener 28 Gorffennaf 7pm-9pm - Wall St Krash

Mae'r digwyddiadau Cerddoriaeth yn y Parc yn cael eu cynnal gan Gyfeillion Bellevue mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam. Mae'r cyngherddau i gyd yn cael eu cynnal gan y Safle Seindorf Edwardaidd yn y parc arobryn, sy’n agos at Ganol Tref Wrecsam.

Am fanylion pellach cysylltwch â Pharc Bellevue ar 01978 264150.

 

Sylwadau

Dweud eich dweud...

Comments are closed for this article